Fy enw i yw Lili Ray, rydw i’n 16 oed ac yn dod o Gaernarfon.
Ar hyn o bryd rydw i’n astudio Cymraeg, Llenyddiaeth Saesneg a Hanes yn y chweched dosbarth yn Ysgol Syr Hugh Owen.
Tasg gwaith cartref ym mlwyddyn saith oedd ‘Lloeren’ yn wreiddiol.
Taith Tim Peake i’r gofod oedd yr ysbrydoliaeth i’r gerdd. Cefais fy ysgogi gan yr holl luniau anhygoel yn y llyfr – ‘Tim Peake – Hello, is this planet Earth? : My View from the International Space Station’.
“Weli di’r plancton ar arfordir yr Ariannin
Yn troelli’n las fel inc mewn dŵr?”
“Weli di fynyddoedd yr Himalaya
Fel crychau ar groen hen wraig?”
Sgwrs sydd yma rhwng ****** (i’w ddehongli yn y darn 😉 gol.) a fi. Rwyf wedi ceisio dod â’r lluniau yn y llyfr yn fyw drwy ddisgrifiadau lliwgar.
Rydym ni’n byw mewn gwlad hardd ac mae tirwedd Cymru yn sicr yn rhywbeth rwyf yn ei drysori. Gobeithio fy mod wedi cyfleu hyn yn y gerdd.